top of page
Diolch
Wedi dros degawd o gwrdd fel teulu ffydd, rydyn ni yn Gomer wedi penderfynu dod a'n heglwys i ben a symud ymlaen i eglwysi eraill. Er bod y penderfyniad wedi bod yn un anodd mewn sawl ystyr, rydyn ni'n diolch i Dduw am yr heddwch mae e wedi rhoi wrth i ni geisio ei ewyllys ef, ac am yr eglurdeb a'r unfrydedd mae e wedi rhoi i ni fel eglwys. Rydyn ni'n diolch iddo am ei ras tuag atom, ac yn ymddiried yn addewid Iesu yn llyfr Mathew na fydd holl bwerau Hades yn trechu ei eglwys.
Diolch i bawb a fu'n rhan o stori Gomer dros y blynyddoedd.
bottom of page